SL(6)225 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyfyngu ar gymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) mewn perthynas â math penodol o denantiaeth ac yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn adlewyrchu hynny.

Mae Deddf 2016 yn cyflwyno darpariaethau sylfaenol sydd, os cânt eu cynnwys mewn contract meddiannaeth, yn dod yn un o delerau sylfaenol y contract hwnnw.

Mae adran 22(1) o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu bod unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol sy'n gymwys i gontract meddiannaeth, neu nad yw'n ddarpariaeth o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw'r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 sy'n ymdrin ag amrywio rhenti yn ddarpariaethau sylfaenol sy'n gymwys i gontractau meddiannaeth sy'n denantiaethau cymdeithasau tai (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 6 o Ddeddf Rhenti 1977 ("Deddf 1977")).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2016 a Deddf 1977 ar gyfer y mathau hyn o denantiaethau, fel bod y trefniadau presennol sy'n gymwys i amrywio rhenti ar gyfer y tenantiaethau hyn yn parhau’n gymwys pan fo tenantiaeth cymdeithas dai yn gontract meddiannaeth safonol diogel neu gyfnodol. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan mai effaith y Rheoliadau hyn yw bod yr hawliau ychwanegol sydd eisoes yn bod mewn perthynas â’r amddiffyniad rhent sydd gan denantiaid o'r fath yn cael eu cadw.

Gweithdrefnau

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi:

“Ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol oherwydd mai dim ond diwygiadau technegol canlyniadol y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

27 Mehefin 2022